Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau

rydym yn glustiau i gyd – telerau ac amodau’r gystadleuaeth.

DOES DIM ANGEN PRYNU NA THALU UNRHYW BETH I GOFRESTRU NEU ENNILL. NI FYDD PRYNU NEU DALU AM RYWBETH YN CYNYDDU’R TEBYGOLRWYDD O ENNILL.

CYMHWYSEDD

Mae’r gystadleuaeth ar agor i breswylwyr y DU yn unig.

Nid yw’r bobl ganlynol yn gymwys i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth:

Drwy gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth, mae NewRiver yn tybio bod gennych gapasiti cyfreithiol i wneud hynny, a’ch bod chi’n cytuno â’r telerau ac amodau hyn.

SUT I GOFRESTRU

I gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth bydd rhaid i chi optio i mewn iddi ar ôl i chi lenwi’r arolwg ar-lein a rhoi eich enw a chyfeiriad e-bost neu rif ffôn.

Dim ond un cofrestriad fydd yn cael ei ganiatáu i bob person (fesul cyfnod y gystadleuaeth).

Does dim ffi gofrestru a does dim angen prynu unrhyw beth.

Mae angen mynediad at y rhyngrwyd i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth.

GWOBR

Gwobr o £250 ar ffurf cerdyn rhodd – rhoddir cerdyn rhodd canolfan siopa NewRiver os yw ar gael, ac os nad yw ar gael rhoddir cerdyn rhodd ar gyfer siop neu siopau yng nghanolfan siopa NewRiver leol yr enillwyr i enillydd pob raffl. Does dim modd trosglwyddo’r gwobrwyon ac mae’n rhaid eu derbyn fel ag y maent. Fodd bynnag, ceidw NewRiver yr hawl i amnewid y wobr am wobr gyda gwerth cyfartal neu werth mwy ar ei ddisgresiwn ei hun. Bydd telerau ac amodau’r cerdyn rhodd yn berthnasol. Mae pob treth yn gyfrifoldeb ar yr enillydd.

DEWIS ENILLYDD

 

Raffl Dyddiad cyntaf y gystadleuaeth Dyddiad olaf y gystadleuaeth Dewis enillydd Rhoi gwybod i’r enillydd erbyn
1 1 Mawrth 2019 31 Mai 2019 1 Mehefin 2019 10 Mehefin 2019
2 1 Mehefin 2019 31 Awst 2019 1 Medi 2019 10 Medi 2019
3 1 Medi 2019 30 Tachwedd 2019 1 Rhagfyr 2019 10 Rhagfyr 2019
4 1 Rhagfyr 2019 29 Chwefror 2020 1 Mawrth 2020 10 Mawrth 2020

Bydd pob cystadleuydd o bob canolfan siopa NewRiver sy’n cymryd rhan yn cael eu cyfuno a bydd un enillydd yn cael ei gyhoeddi fesul raffl chwarterol. Bydd yr enillydd perthnasol yn cael gwybod dros y ffôn neu e-bost o fewn deg (10) diwrnod gwaith o ddyddiad tynnu’r raffl.

Os nad yw’r enillydd a ddewiswyd yn cydymffurfio â rheolau’r raffl neu os nad oes modd cysylltu ag ef/hi dros y ffôn neu e-bost ar ôl dau (2) ymgais o fewn tair ar ddeg (13) diwrnod gwaith o ddyddiad tynnu’r raffl, ceidw NewRiver yr hawl i ddewis enillydd arall.

Bydd y wobr ar gael i’r enillydd ei chasglu o’r ganolfan siopa NewRiver leol o fewn wyth ar hugain (28) diwrnod gwaith o dderbyn cadarnhad eu bod wedi ennill y wobr.

Mae unrhyw drethi perthnasol ar y wobr yn gyfrifoldeb ar yr enillydd.

Os ydych yn ennill y wobr, ni fyddwn fyth yn gofyn i chi roi eich manylion banc.

Bydd enw a sir yr enillydd ar gael am un (1) mis ar ôl y raffl drwy anfon e-bost at marketing@nrr.co.uk neu drwy anfon amlen â stamp a’ch cyfeiriad arni at The Marketing Team, NewRiver REIT (UK) Ltd., 16 New Burlington Place, London, W1S 2HX.

CYFFREDINOL

Drwy gofrestru ar gyfer y raffl rydych yn cytuno i lynu at y telerau ac amodau hyn (allai gael eu diwygio neu amrywio ar unrhyw adeg gan NewRiver gyda neu heb rybudd). Mae pob penderfyniad yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth na thrafodaeth ynghylch y peth.

Bydd bob newid i’r Telerau ac Amodau yn cael eu cyflwyno mewn telerau ac amodau diwygiedig ar wefannau canolfannau siopa NewRiver.

Nid yw NewRiver yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am gofrestriadau wedi’u hoedi, anghywir, gyda chyfeiriad anghywir neu sydd wedi’u cyflwyno i’r lle anghywir.

Bydd gwybodaeth bersonol a gesglir gan ymgeiswyr yn cael ei defnyddio gan NewRiver ond mewn cysylltiad â’r raffl, ac ni fydd yn cael ei rhannu ag unrhyw drydydd parti oni bai am weithredu’r raffl ac am gyflwyno gwobrwyon lle bo’n berthnasol. Cyfeiriwch at ein Polisi Preifatrwydd y mae modd ei weld yn [add link].

Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u creu yn unol â chyfraith Lloegr, a bydd unrhyw ddadl ynghylch neu ar y cyd â’r Cytundeb hwb yn amodol ar benderfyniad Llysoedd Lloegr.

HYRWYDDWR

Yr Hyrwyddwr yw NewRiver REIT (UK) Ltd., 16 New Burlington Place, London, W1S 2HX

Diweddarwyd diwethaf: 12 Mawrth 2019

Contact

Merlin’s Walk Shopping Centre
Blue St,
Carmarthen,
SA31 3BN

Tel: 01267 220 961
Email: enquiries@merlinswalk.com

We aim to respond as soon as possible!

Sign up to our Newsletter


Privacy & Cookie Policy
Change your cookie preferences

Opening Hours

Monday
9:00 am – 6:00 pm
Tuesday
9:00 am – 6:00 pm
Wednesday
9:00 am – 6:00 pm
Thursday
9:00 am – 6:00 pm
Friday
9:00 am – 6:00 pm
Saturday
9:00 am – 6:00 pm
Sunday
10:00 am – 4:00 pm

(Individual store opening times may vary)